top of page

Enwau Hanesyddol - Amddiffyn ein Treftadaeth

Yn Cwestiynnau i'r Brif Weinidog ddoe, rhoddais sialens i Carwyn Jones ar bwriad ei lywodraeth o gwmpas y newid o enwau llefydd hanesyddol Gymreig. Yn rhy aml mae enwau sydd a cysylltiad dwfn i dreftadaeth lleol yn cael eu gyfnewid am enwau sydd yn meddwl dim i hanes na diwilliant yr ardal.

Mae hyn yn aml yn cael ei wneud am rhesymau marchnata a mae'n digwydd yn aml iawn mewn plasdai, cestyll ac ati. Mae newid yr enwau yma yn dangos diffyg parch a dealltwriaeth tuag at treftadaeth unigryw Cymru.

Dyma'r cwestiwn gofynnais Carwyn Jones (a'i ymateb):

Dai Lloyd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am enwau lleoedd hanesyddol Cymru?

Carwyn Jones: Mae enwau lleoedd hanesyddol yn rhoi tystiolaeth werthfawr inni o ddatblygiad ein cenedl. Mae’n un o ofynion Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 fod Gweinidogion Cymru’n llunio rhestr o enwau lleoedd hanesyddol a fydd yn cofnodi’r dreftadaeth gyfoethog hon ar gyfer y dyfodol.

Dai Lloyd: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae wedi ei ddweud, fel rŷch chi wedi ei nodi, dros y blynyddoedd diwethaf bod yna nifer o esiamplau o enwau hanesyddol Cymraeg ar hen dai, ar hen blastai ac ar hen ffermydd. Mae’r enwau hanesyddol Cymraeg yma i gyd wedi dod o dan fygythiad ac yn aml, yn wir, rhai yn cael eu newid i’r Saesneg. A ydych chi fel Llywodraeth yn cytuno bod yna botensial i ddatblygu deddfwriaeth lle bydd angen derbyn caniatâd gan awdurdod cynllunio cyn ymyrryd ag enwau hanesyddol Cymraeg?

Carwyn Jones: Mae hyn yn rhywbeth rŷm ni wedi ei ystyried, ond pan edrychom ni ar hyn—mae yna fwy o enwau yn cael eu newid o’r Saesneg i’r Gymraeg nag o’r Gymraeg i’r Saesneg. O achos hynny, ym mha ffordd, felly, y byddai’n bosibl i blismona hyn drwy’r system gynllunio? Nid wyf yn un sydd o blaid newid enwau Cymraeg i enwau Saesneg o ran enwau llefydd. Wedi dweud hynny, wrth gwrs, mae Comisiynydd y Gymraeg wedi sefydlu panel er mwyn rhoi cyngor ac argymhellion iddi hi ynglŷn ag ym mha ffordd y gallwn ni sicrhau bod ein treftadaeth yn yr iaith Gymraeg yn cael ei gwarchod.

Gallwch wylio'r cwestiwn yma.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page