top of page

Ymgyrch Dai Lloyd i achub Arwelfa


Yn y dyddiau diwethaf mae Dai wedi bod yn siarad i drigolion lleol ac yn dosbarthu ffurfleni ymgynghoriad yn ardal Croeserw yng Nghwm Afan, fel rhan o'r ymgyrch i arbed Cartref Gofal Arwelfa.

Er iddo fod yn rhan o'r ymgyrch llwyddianol i arbed y cartref ond deg o flynyddoedd yn ol, mae Dai Lloyd AC a'r tim Plaid Cymru wedi darganfod bod cynlluniau ar y gweill gan Cyngor Castell Nedd Port Talbot i gau'r maes mor gynnar a fis Mawrth 2017. Bydd unrhyw fygythiad i gau'r cartref yn rhoi straen anferthol ar ei drigolion a'u teuluoedd ond bysai terfyn mor sydyn yn y gwasanaeth yn medru gadael sawl person mewn sefyllfa annodd iawn, gyda prinder amser i wneud trefniadau wahanol.

Gobeithia Dai os fydd digon o bobl leol o ardal Croeserw ac ymhellach yn ymateb i'r ymgynghoriad gall y cartref cael ei hachub. Mae Arwelfa yn ddarparu gwasanaeth angenrheidiol a gwerthfawr i'r gymuned leol a bysai ei golli yn trasiedi. Bysai'n achosi sawl person leol i orfod gadael eu bro cynefin er mwyn ddarganfod y gofal maent eu hangen.

Mae Dai, yn ogystal a holl tim Plaid Cymru, yn gweithio'n ddiflino i sicrhau bod Arwelfa yn ddiogel o doriadau'r cyngor Llafur. Os hoffech ffurflen ymgynghoriad i'w lenwi neu hoffech fod yn rhan o'r ymgyrch, cysylltwch a ni. Gall manylion cyswllt cael eu ddarganfod yma


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page