top of page

Ymweliad a Ty Hafan

Ar ddydd Mawrth es i Dy Hafan fel rhan o fy rôl newydd fel cadeirydd pwyllgor iechyd y Cynulliad.

Mae’r gwaith meant yn eu cyflawni yna mor bwysig i gymaint o deuluoedd o amgylch Cymru a roedd yn anrhydedd i weld yr effaith meant yn cael ar bywydau y pobl ifanc sydd yn dibynnu arnynt. Mae’r staff yn Nhy Hafan yn gweithio’n ddiflino mewn amodau annodd sydd yn gwaethygu oherwydd yr arweinyddiaeth gwael mae ein GIG wedi dioddef ohoni yn y flynyddoedd ddiweddar.

Mae Ty Hafan yn elusen annibynnol sydd yn medru helpu gymaint o blant oherwydd cefnogaeth pobl arferol o gwmpas Cymru ac ymhellach. Dwi’n benderfynnol o helpu Ty Hafan fel AC, nid yn unig drwy codi ymwybyddiaeth o’u gwaith, ond gan hybu polisiau iechyd blaengar trwy Pwyllgor Iechyd y Cynulliad.

Cyn i mi gael fy ethol fel AC roeddwn yn ddoctor, a dwi’n dal i ymarfer ar lefel wirfoddol heddiw. Dwi’n benderfynnol o ddefnyddio fy mhrofiad er mwyn gwella safon ein GIG yn genedlaethol.

Er hynny, dwi hefyd am weld bod pawb yn De Orllewin Cymru yn gwybod y gallent ddod ataf i os oes gennyn nhw unrhyw bryderon am y ffordd mae ein hysbytai, meddygfeydd neu unrhyw wasanaeth meddygol arall yn cael eu redeg. Ffoniwch neu anfonwch ebost a byddaf innau yn ogystal a thîm Plaid Cymru yn gwbl barod i’ch helpu.

Mae pawb yng Nghymru yn haeddu gwasanaeth iechyd y gallent ymddiried ynddi. Rydym i gyd yn ymwybodol o pa mor galed mae ein doctoriaid, nyrsiau a gweithwyr cymorth yn gweithio, ond mae angen mwy o gefnogaeth ar ein GIG na dderbynnir oddi wrth lywodraeth Llafur. Wrth i mi daro ‘mlaen gyda fy ngwaith fel eich Aelod Cynulliad, byddaf yn pwyso’r llywodraeth ar bob achlysur i sicrhau bod ein Gwasanaeth Iechyd yn derbyn y cymorth mae ei angen.

Dai.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page