top of page

Plaid yn galw ar y cyngor: Cadwch Trem y Glyn

Mae tim Plaid Cymru wedi bod allan yng Nghwmgwrach yn siarad gyda pobl lleol am ein ymgyrch i achub cartref Trem y Glyn. Cafodd ffurflenni ymgynghoriad eu dosbarthu mewn ymdrech i ddangos i Gyngor Llafur Castell Nedd Port Talbot mai camgymeriad llwyr bysai cau'r cartref.

Er fu ymgyrch llwyddianus er mwyn achub y safle ond ychydig flynyddoedd yn ol, mae Castell Nedd Port Talbot eto wedi dweud mai eu gobaith yw i gau'r safle o fewn chwe mlynedd. Dywedodd y cyngor yn wreiddiol y bysai cartref newydd yn cael ei hadeiladu os caewyd Trem y Glyn ond maent bellach wedi camu yn ol o'r addewid yna.

Mae'r newyddion am cau posib Trem y Glyn wedi bwrw teuluoedd, trigolion lleol a rheiny sydd yn dibynnu ar y gwasanaeth yn barod. Mae hefyd wrth gwrs wedi bod yn amser caled iawn i'r staff, fel amlinellwyd yn y South Wales Evening Post. Daw'r cynllun i gau Trem y Glyn tra bod Plaid Cymru yn barod yn brwydro yn erbyn cynllun y cyngor i gau Cartref Arwelfa yng Nghroeserw.

Mae'r Aelodau Cynulliad, Dai Lloyd a Bethan Jenkins, yn ogystal a chynghorwyr Plaid Cymru a gwirfoddolwyr lleol, yn ymladd er mwyn cadw'r gwasanaeth holl-bwysig yma a bysen yn caru glywed ganddoch. Cysylltwch a ni os ydych am drafod eich pryderon am y sefyllfa neu os ydych am helpu gyda'n ymgyrch.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page