Cymorthfa Pontardawe
Ar y 3ydd o Hydref byddai yn Pontardawe er mwyn cynnal cymorthfa cymunedol. Byddaf yn Canolfan Gymdeithasol Cross rhwng 6 a 7yh er mwyn ateb unrhyw gwestiynnau sydd ganddoch a thrafod unrhyw materion hoffech godi.
Dwi'n ymwybodol bod yna sawl mater pwysig i'w drafod yn yr ardal ar hyn o bryd gyda'r cyngor yn bygwth sawl gwasanaeth leol. Dwi am fod yn Aelod Cynulliad sydd yn gwrando ac sy'n cymryd camau pendant i helpu pobl felly dewch draw a gallwn gweithio gyda'n gilydd i wneud yr ardal yn lle hyd yn oed well i fyw.
Mae tim lleol Plaid Cymru wedi bod yn gweithio'n ddiflino er mwyn gwella bywydau pobl lleol a dwi'n edrych ymlaen at gwrdd a pawb maent wedi bod yn helpu yn ogystal a bobl newydd sydd a phryderon i'w godi.
Felly dewch draw, codwch unrhyw mater hoffech wneud a wnai ymrwymo i helpu gymaint o bobl ag y gallai gyda'u pryderon.
Dai