Agoriad Synexus
Mi gefais y pleser heddiw o gael agor yn swyddogol canolfan newydd Synexus yng Nghaerdydd. Mae'r cwmni yma yn arbennigo mewn helpu'r proses o greu meddyginiaeth newydd a gwella y rhai sydd ar gael yn barod trwy cynnal profion clinigol.
Trwy agor eu canolfan newydd yn ein prifddinas, bydd Synexus yn gallu ehangu ar y cydweithio maent yn gwneud gyda ein GIG. Bydd hwn yn datblygiad dda i ein gwasanaeth iechyd yn ogystal ag ein cleifion. Bydd y canolfan newydd hefyd wrth gwrs yn creu swyddi ar gyfer doctoriaid, nyrsys a staff cymorth.
Ar fy ymweliad heddiw welais y cyfleusterau o'r radd flaenaf bydd yn sicrhau bod y canolfan yma yn arwain y ffordd mewn gwella meddygyniaeth am flynyddoedd i ddod. Mae agor y canolfan yma yn ein gwlad ni yn gwneud hyn yn ddiwrnod falch i Gymru ac edrychaf ymlaen yn arw at gael gweithio gyda Synexus yn y dyfodol er fudd ein GIG a'n cleifion.
Daw'r newyddion da yma mewn amser ble nad does yna llawer i'w ddathlu am stad ein GIG. Nid yn unig yw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr dal o dan mesurau arbennig. Mae'r llywodraeth Lafur hefyd wedi gosod byrddau iechyd Hywel Dda, Abertawe Bro Morgannwg, a Cardiff & Vale mewn "ymyrraeth dargedol" sydd ond un cam islaw mesurau arbennig.
Yn ogystal a hyn mae'r ffigyrau diweddaraf wedi dangos gostyngiad yn y nifer o GPs sydd yn gweithio yng Nghymru, er i 97% o feddygfeydd nodi cynydd yn yr alw am eu gwasanaeth. Mae straeon fel agor canolfan Synexus yn codi calon, ond os nad yw'r llywodraeth yn fodlon derbyn polisi Plaid Cymru o recriwtio 1000 o ddoctoriaid a 5000 o nyrsys newydd gall y gwasanaeth iechyd fod yn paratoi am ei gaeaf annoddaf erioed.
Mae hyn yn amser annodd i'n GIG ond bydd Plaid Cymru yn bwrw ati i weithio er mwyn cael gymaint o'r polisiau o'n Rhaglen Wrthbleidiol wedi'u wireddi ag sy'n bosib, er mwyn gwella bywydau pobl Cymru a chryfhau'n gwasanaeth iechyd. Dwi am ddiolch i bawb yn Synexus a wnaeth llwyddiant o ddigwyddiad heddiw, ac am y gwaith holl bwysib maent nawr yn cychwyn arni.
Bydd y digwyddiad a cyfweliad mi wnes i heddiw yn cael eu darlledu ar Made in Cardiff.