Ymladd i Arbed Amgueddfa Abertawe
Mae darganfyddiad hen baentiad sy'n werth £3 miliwn yn dangos pwysigrwydd achub Amgueddfa Abertawe, meddai'r Aelod Cynulliad Plaid Cymru Dr Dai Lloyd.
Credir bod y paentiad, gan yr artist Baróc Jacob Jordaens, ym meddiant Amgueddfa Abertawe ers bron 150 o flynyddoedd.
Mae'r amgueddfa'n dathlu ei 175ain pen-blwydd eleni - ond yn wynebu crebachu oherwydd toriadau gwariant gan Gyngor Abertawe. Mae nifer o staff yr amgueddfa eisoes wedi ymadael, gyda rhagor o ddiswyddiadau ar y gweill yn ystod y flwyddyn ariannol i ddod.
"Mae'r newydd syfrdanol yma'n tanlinellu'r ffaith fod gan Abertawe ased gwerthfawr dros ben yn yr amgueddfa ac yn y Ganolfan Casgliadau yn yr Hafod", meddai Dr Lloyd.
"Dyma rywbeth dylwn ni ei ddathlu a'i ddatblygu, nid ei redeg i lawr.
"Mae perygl gwirioneddol y gallai diswyddo staff allweddol olygu cau'r amgueddfa - cyflafan i Abertawe ac i Gymru gyfan.
"Rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu tasglu ar y cyd gyda Chyngor Abertawe gyda'r nod o sicrhau dyfodol diogel i'r amgueddfa a'i gwasanaethau diwylliannol."
Rhagor o wybodaeth ar:
<http://www.thetimes.co.uk/edition/news/neglected-copy-is-3m-old-master-hc8kgvhdj>
Bydd BBC4 yn darlledu rhaglen am y paentiad yn y cyntaf o'r gyfres 'Britain's Lost Masterpieces' am 9pm, Nos Fercher 28 Medi 2016