Footgolf yn y Bae!
Mae AC Plaid Cymru Dr Dai Lloyd, sydd yn gadeirydd ar bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad, wedi galw ar drigolion De Orllewin Cymru i gynyddu eu gweithgaredd ffitrwydd.
Gwnaeth Dr. Lloyd y ddatganiad wrth iddo ymweld a ganolfan Footgolf Abertawe wrth ymyl Blackpill, ar safle'r hen cwrs golff mini a redwyd gan y cyngor yn y gorffennol. Mae'r gyfleuster newydd, a agorwyd yn gynharach eleni, wedi bod yn llwyddiant ysgubol, ac wedi cynyddu'r nifer o ymwelwyr yn sylweddol.
Dywedodd Dr. Lloyd:
"Mae gweithgarwch ffitrwydd yn rhoi lles i bobl ac yn angenrheidiol ar gyfer eich iechyd. Mae'n gostwng y siawns o gael sawl salwch cronig fel clefyd y galon, diabetes a gordewdra. Mae hyd yn oed ychydig bach o ymarfer corff yn gallu wneud gwahaniaeth mawr.
"Yn ogystal a helpu'ch iechyd, mae gwneud mwy o ymarfer corff yn helpu gostwng costau'r GIG a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol, sydd ar hyn o bryd o dan straen.
"Mae'r fath yma o atyniad yn Abertawe yn esiampl gwych o'r fath o gyfleuster sydd yn dod a rhywbeth hwyl i bobl o bob oedran i'w wneud. Yn ystod fy ymweliad, roedd yn wych i weld rhieni a neiniau a theidiau, pobl o bob oedran, allan ar y cwrs yn cael yr ymarfer corff yna sydd ei angen ar bawb.
"Y neges i drigolion De Orllewin Cymru yw i fynd allan, byddwch yn actif a chychwynwch i weld y lles bydd hynna'n dod iddoch."
“The message to residents in South Wales West is to get out and about, get active, and start to see those personal health benefits.”