top of page

Band Llydan Superfast Broadband

English Below

Isod gwelwch yn fras fy nghyfraniad i'r ddadl heddiw yn y Senedd ar Band Eang. Gosodwyd gwelliant gan Plaid Cymru er mwyn ceisio sicrhau nad oes unrhyw ardal yn cael eu anghofio wrth i band eang cyflym iawn dod i mwy o ardaloedd yng Nghymru.

Rydym yn derbyn, ac yn dathlu’r ffaith, bod dros 89% o gartrefi yng Nghymru erbyn hyn yn gallu cael mynediad i fand eang cyflym iawn.

Ond wrth gwrs mae profiadau yn rhai o Awdurdodau Lleol Cymru yn hollol wahanol.

Mae rhai yn gwneud yn dda iawn:

  • Merthyr Tydfil – 98.32% o dai yn gallu derbyn.

  • Blaenau Gwent – 97.9% of dai yn gallu derbyn.

Ond mae rhai awdurdodau lleol, ac yn bennaf rhai gwledig, yn colli allan:

  • Ceredigion – 60.44% o dai yn gallu derbyn.

  • Powys – 65.67% o dai yn gallu derbyn.

Mae ffigurau BT wythnos yma yn cadarnhau bod llai na 1% o Gymru ar hyn o bryd yn derbyn cyflymder is na 2Mbps a llai na 7% o dan 10Mbps.

Rydym yn deall wrth gwrs bod sicrhau mynediad i’r gwasanaeth yma yn mynd i fod yn anoddach mewn rhai ardaloedd gwledig, ac mewn rhai ardaloedd trefol hefyd lle mae problemau lleol (fel cyfyngiadau cynllunio neu rwystrau ffisegol sy’n eu hatal rhag gosod ceblau).

Tra bod hi’n amlwg bod ‘na angen am fwy o wariant i dargedu’r ardaloedd hyn, mae hefyd angen cydnabod bod angen gweld mwy o gydlynu lleol rhwng unigolion a grwpiau cymunedol er mwyn delifro gwasanaethau uwchgyflym.

Mae cynllun ‘Mynediad i Fand Eang’ Llywodraeth Cymru wrth gwrs yn un sy’n galluogi unigolion i wneud cais am gymorth ariannol, ond pwrpas ein gwelliant ni heddiw ydy rhoi rôl flaenllaw i lywodraeth leol yng Nghymru, fel bod ‘na ddisgwyl ar gynghorau lleol i gydweithio gyda chymunedau a chydlynu’r anghenion sirol mewn ffordd strategol, yn hytrach na’r system adweithiol, sydd yn nodweddiadol o’r system bresennol.

Unwaith bod yr isadeiledd mewn lle, mae’n amlwg bod rhaid i ni wneud y mwyaf o’r cyfleoedd economaidd a chymdeithasol sy’n codi o’r mynediad hynny.

Mae’n werth nodi wrth gwrs mai bod llai nag un o bob tri pherson sy’n gallu cael gwasanaethau uwchgyflym yn bachu ar y cyfle hwnnw.

Mae’r Llywodraeth eisoes wedi cyflwyno ymgyrch marchnata a chyfathrebu er mwyn hyrwyddo’r defnydd o fand eang unwaith mae ef ar gael mewn ardaloedd, ond mae angen edrych ar effeithiolrwydd yr ymgyrch hwn i sicrhau fod mwy o unigolion a busnesau yn gwneud defnydd o’r dechnoleg newydd sydd ar gael.

Mae’r dechnoleg ‘ma yn holl bwysig i Gymru wrth i ni geisio gau’r gap economaidd gyda gweddill y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Rwy’n croesawu’r ffaith fod BT Cymru yn awr yn profi gwasanaeth G.Fast yn Abertawe, ac yn edrych ymlaen at weld adolygiad y peilot yma.

Ond wrth i ni groesawu’r ffaith fod rhai ardaloedd o Abertawe dderbyn cyflymder oddeutu 500Mbps fel rhan o’r peilot yma, rhaid i ni beidio anghofio am yr ardaloedd hynny sydd dal ddim yn derbyn gwasanaeth sylfaenol, ac ar y sail hynny, rwy’n annog aelodau i gefnogi’r gwelliant sydd ger bron.

 

Superfast Broadband

We accept and celebrate the fact that over 89% of Wales’ homes can now receive superfast broadband.

However the experience of people in many of Wales’ Local Authorities differs completely.

Some are doing very well:

  • Merthyr Tydfil – 98.32%

  • Blaenau Gwent – 97.9%

But some local authorities, and especially rural ones, are losing out:

  • Ceredigion – 60.44%

  • Powys – 65.67%

BT’s figures this week confirm that less that 1% of Wales are by now receiving less that 2Mbps and less that 7% are receiving under 10Mbps.

We understand of course that securing access to faster broadband is going to be more difficult in rural areas, and in some more urban places there will be local problems (like planning restrictions or physical problems that prevent the placement of cables).

While it’s clear that more resources need to be targeted towards these areas, we must also realise that we need to see closer cooperation between individuals and community groups in order to deliver superfast services.

The Welsh Government’s ‘Access to Broadband’ scheme allows individuals to make cases for financial support, but the purpose of Plaid Cymru’s amendment is to give local authorities a primary role in Wales, so that councils are expected to work together with communities and coordinate local delivery in a strategic way, rather than the present system which is reactive in its nature.

As soon as the infrastructure is in place, it is obvious that we must make the most of the economic and social opportunities that will arise from increased access.

It is worth noting of course that less than one in three people who can have access to superfast broadband actually take advantage of that opportunity.

The government has already introduced a marketing and communications campaign in order to encourage the use of broadband as soon as it is available in a given area, but we need to look at the effectiveness of that campaign to ensure that more individuals and businesses start making use of the technology which is available.

This technology is all important to Wales as we attempt to close the economic gap with the rest of the UK and with Europe. I welcome the fact that BT Cymru are now testing a G.Fast service in Swansea and I’m looking forward to seeing the review of this pilot.

But as we welcome the fact that some areas of Swansea are receiving a broadband speed of around 500Mbps as part of this pilot, we must not forget about those areas which still don’t receive the most basic service, and on that note, I urge members to support the amendment put forward by Plaid Cymru.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page