top of page

Mae Dr Dai am glywed o CHI!

Bydd Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Dr Dai Lloyd, yn Llyfrgell Fforestfach er mwyn gwrando i'ch pryderon.

Mae Dr Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros De Orllewin Cymru, wedi ddatgan y bydd yn ymweld a Lyfrgell Fforestfach er mwyn gwrando ar gwestiynnau a phryderon pobl lleol mewn cymorthfa ar yr 19fed o Ragfyr.

Cynhelir y gymorthfa rhwng 4 a 5yh a mae croeso i bobl lleol i ddod a godi unrhyw fater heb yr angen am apwyntiad.

Dywedodd Dr Dai, sydd yn cyn-gynghorydd iward Coced, "Dwi am ymrwymo fel eich Aelod Cynulliad i sicrhau mai fy mhrif blaenoriaeth o hyd bydd gwrando ar fy etholwyr a'u helpu gyda unrhyw materion a codant. Dyna pam dwi'n cynnal cymorthfeydd ym mhob ardal o'r rhanbarth. Dwi am i bawb sydd yn byw yn De Orllewin Cymru i gallu dod i mi a godi eu pryderon."

Fel Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros Diwylliant, pwysleisiodd Dr Dai Lloyd yr angen i gefnogi llyfrgelloedd leol. Dyna pam y mae'n ymrwymo i gynnal cymorthfeydd mewn llyfrgelloedd ar draws y rhanbarth pryd bynnag mae'n bosib.

Os oes gennych unrhyw mater hoffwch godi gyda'ch Aelod Cynulliad, mae Dr Dai Lloyd yn eich annog i fynychu y cymorthfa. Bydd yna croeso cynnes i bawb a mae hyn yn gyfle wych i adael i'ch cynrychiolydd wybod pa faterion hoffech iddo ymdrin a.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page