top of page

AC Plaid Cymru i gynnal Cymorthfa yn Nhreforys

AR Dydd Llun, yr 16eg o Ionawr, bydd Dr Dai Lloyd, AC Plaid Cymru, yn cynnal cymorthfa yn Lyfrgell Treforys.

Cychwynir y digwyddiad am 17.00 a bydd yn para o leia awr. Mae Dr Lloyd, sydd yn cynrychioli De Orllewin Cymru yn y Cynulliad, yn awyddus bod pobl yn gwybod bod croeso iddynt fynychu'r cymorthfa er mwyn codi unrhyw gwestiynnau neu pryderon sydd ganddynt. Does dim angen apwyntiad er mwyn dod.

Mae'r cymorthfa yma yn digwyddiad arall bod yr Ysgrifennydd Cysgodol dros Diwylliant a Seilwaith yn cynnal yn ei gyfres o digwyddiadau mewn llyfrgelloedd o amgylch y rhanbarth. Mae'r Aelod Cynulliad wedi mynegi ei gefnogaeth tuag at llyfrgelloedd yn y gorffennol a mae'n falch bod y cymorthfeydd yma yn cyfle i gyflwyno pobl i'w llyfrgelloedd leol.

Yn ogystal a bod yn lefarydd Plaid Cymru ar Diwylliant a Seilwaith, mae Dai Lloyd, sydd dal yn Feddyg Teulu, yn cadeirio Pwyllgor Iechyd y Cynulliad. Mae croeso i chi godi cwestiynau ar unrhyw un o'r materion yma neu ar unrhyw fater leol.

Os na fedrwch bod yn y cymorthfa ond hoffwch godi rhywbeth gyda Dr Dai, gallwch ffonio'i swyddfa ar 01639 820530 yn ystod oriau busnes.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
No tags yet.
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page