Dyw Ugain Ddim yn Ddigon
Etholaeth y Prif Weinidog ond yn cynnig 20 o lefydd ychwanegol mewn ysgolion gynradd Gymraeg dros y 3 blwyddyn nesaf
Mae Dr Dai Lloyd, Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros De Orllewin Cymru, wedi cwestiynnu'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, am y ffaith mai ond 20 o lefydd ychwanegol sydd am cael eu gynnig mewn ysgolion gynradd Gymraeg yn ei Gyngor Sir ef, sef Penybont-ar-Ogwr.
Mae'r llywodraeth wedi addo miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, sydd yn gyfartal i 18,000 ymhob cyngor sir. Mae'n amlwg felly nad yw 20 o lefydd ychwanegol yn ddigonol. Isod, gallwch wylio fideo o Dr Dai Lloyd, sydd hefyd yn ysgrifennydd cysgodol dros diwylliant, yn gwasgu ar y Prif Weinidog i addo na fydd cynlluniau mor wan yn cael eu derbyn.