Mae'n bryd i ddarlledu cael ei ddatganoli
Bydd Plaid Cymru heddiw (Dydd Mawrth, 8 Awst) yn lansio deiseb yn galw am ddatganoli pwerau darlledu o San Steffan i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae Llefarydd Diwylliant y Blaid, Dai Lloyd AC, yn cyflwyno araith a lansio'r ddeiseb ar stondin Plaid Cymru ar Faes yr Eisteddfod am hanner dydd.
Mae disgwyl i Dai Lloyd ddweud:
"Mae bron i bob un o'r prif benderfyniadau gwleidyddol sy'n effeithio ar ddarlledu yng Nghymru yn cael eu gwneud yn Llundain gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon (ADDCC).
"Yn ddiweddar wnaeth Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu’r Cynulliad gyhoeddi ei adroddiad ‘Y Darlun Mawr’, sy'n dangos yn glir fod yna heriau sylweddol yn wynebu’r sector ddarlledu yng Nghymru.
"Mae’r dystiolaeth yn dangos dro ar ôl tro bod Cymru yn cael eu hanwybyddu ac yn ôl-ystyriaeth i Lywodraeth y DU, a'r prif ddarlledwyr.
"Dydy hi ddim yn gwneud unrhyw synnwyr bod penderfyniadau ar ddarlledu yn cael eu cymryd yn Llundain tra bod cymhwysedd dros feysydd polisi perthnasol eraill, megis diwylliant a'r diwydiannau creadigol, yn gorwedd yng Nghymru. Mae'r ardaloedd hyn yn amlwg yn gysylltiedig, ac mae angen adlewyrchu'r gyd-ddibyniaeth yma.
"Nid yw'r setliad presennol yn gwasanaethu Cymru yn dda. Mae yna lawer iawn o bobl yng Nghymru sydd â phryderon am ddyfodol S4C er enghraifft; y diffyg lluosogrwydd yn y cyfryngau yng Nghymru; a'r diffyg cynrychiolaeth a phortreadu o Gymru sydd ar y rhwydweithiau cenedlaethol. Er hynny, dydy Llywodraeth y DU yn gwneud braidd dim i fynd i’r afael a’r problemau yn y meysydd hyn.
"Fel enghraifft, yn 2016 nododd yr Arglwydd Hall, Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC fod 'y cyllid ar gyfer cynnwys Saesneg a wnaed yng Nghymru ar gyfer cynulleidfa Gymreig wedi gostwng i lefelau anghynaladwy'. Mae ymateb y BBC i hyn i godi’r cyllid o tua £8.5m yn hollol annigonol. Yn wir, mae Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr wedi datgan bod 'Cymru'n cael ei thrin yn warthus'.
"Anodd iawn yw hi i beidio â dod i’r casgliad bod Llywodraeth y DU a’r darlledwyr Prydeinig o'r farn bod ganddynt bethau mwy pwysig i wneud na delio gyda’r sefyllfa yng Nghymru. Gyda’r lefel yma o ddifaterwch yn Llundain, datganoli i Gymru yw'r unig ateb.
"Yn sicr, byddai'n llawer gwell gweld Aelodau'r Cynulliad a Gweinidogion Cymru fynd i'r afael â'r materion hyn sy'n benodol i Gymru. Mae’n Cynulliad Cenedlaethol ni mewn sefyllfa llawer gwell, ac yn y rhan fwyaf o achosion o lawer mwy gwybodus a deallus, i fynd i'r afael â'r heriau yma sy’n gwynebu Cymru.
"Mae angen i'r sector ddarlledu i adlewyrchu realiti datganoli yn y DU. Y gwirionedd yw bod iechyd democrataidd y cenhedloedd llai o'r DU yn dibynnu ar system ddarlledu gyhoeddus sy’n gweithio ac sydd wedi’i ariannu’n briodol. Yn hyn o beth, mae’r setliad presennol yn methu Cymru.
"Mae'n amlwg bod angen gwelliannau i lefel y ddarpariaeth newyddion sy'n benodol i Gymru, ac o raglenni a leolir yng Nghymru yn gyffredinol. Ond hefyd, allwn ni ddim diystyru pwysigrwydd y cyfryngau darlledu ac S4C yn benodol yn ein hymdrechion i warchod yr iaith.
"Mae nifer o sefydliadau, gan gynnwys y Sefydliad Materion Cymreig eisoes wedi galw am ddatganoli darlledu, a dangosodd pôl YouGov yn Fis Mai 2017 fod y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru hefyd yn cefnogi'r syniad.
"Ni all y system bresennol, sy'n rhoi cyn lleied o sylw i faterion Cymreig ac sy’n methu deg ag adlewyrchu ein bywydau ni yma yng Nghymru, barhau.
"Mewn gwledydd datganoledig eraill fel Gwlad y Basg a Chatalonia, mae darlledu wedi'i ddatganoli, ac mae eu cyfryngau nhw mewn sefyllfa llawer iachach o ganlyniad - gyda nifer o orsafoedd theledu a radio. Mae yna gyfle fan hyn i Lywodraeth Cymru i arwain y ffordd, nid yn unig gyda’r darlledwyr cenedlaethol, ond hefyd o ran gorsafoedd radio a theledu lleol ar draws y wlad.
"Mae amharodrwydd Llywodraeth Cymru i gefnogi datganoli darlledu wedi'i seilio ar bryderon ynghylch yr anawsterau o ddatganoli rhai agweddau ar wahân i eraill, a’r ansicrwydd ynghylch a'r trefniadau ariannu fydd yn dilyn - ond mae'r rhain yn faterion y gellir eu goresgyn. Mae gennym enghreifftiau o fodelau rhyngwladol sy'n gweithio'n dda. Parodrwydd gwleidyddol sydd ei hangen, ond yn anffodus mae hyn wedi bod yn ddiffygiol yn y ddwy Lywodraeth - yng Nghaerdydd ac yn Llundain hyd yn hyn.
"Mae angen i Lywodraeth Cymru i gamu i fyny, i ddangos asgwrn cefn, mynnu'r pwerau i fynd i'r afael â'r materion hyn, a mynnu nhw nawr."