top of page

Cefnogwch Ffrindiau Parc Treforys

Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros y De Orllewin, Dr Dai Lloyd, yn gobeithio bydd pobl yn cefnogi cais Ffrindiau Parc Treforys am gyllid.

Mae’r Aviva Community Fund yn ariannu prosiectau sydd yn cael effaith positif ar eu hardaloedd lleol ac mae Ffrindiau Parc Treforys wedi datgan y byddent, os yn llwyddiannus, yn defnyddio’r arian er mwyn wella’r maes chwarae i blant gyda llwybr newydd hygyrch ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, gwelâu blodau, llwyni, meinciau picnic a mynedfa newydd.

Canmolodd Dr Lloyd gwaith Ffrindiau Parc Treforys gan ddweud “Mae’r holl dîm yn glod i’r gymuned. Bydd y cyllid yma yn caniatáu i Ffrindiau Parc Treforys adeiladu ar y gwaith sydd wedi ei wneud yn barod.

“Dwi’n gobeithio y bydd pawb yn cymryd y cyfle i gefnogi’r cais yma a rhoi eu pleidleisiau i Ffrindiau Parc Treforys, er mwyn gwella ar beth sydd yn barod yn ased i’r gymuned.”

Ychwanegodd Steffan Phillips, Cadeirydd Ffrindiau Parc Treforys:

“Pan agorodd Treforys yn 1912, hyn oedd parc mwyaf Abertawe a ddaeth pobl yma o bob cornel o’r ddinas a phellach i ffwrdd. Ry’ ni am wneud Treforys, unwaith eto, yn un o barciau orau'r ddinas ac yn atyniad i dwristiaid.

“Mae cynnydd gwych wedi ei wneud yn barod wrth i ni wella’r ardd o gwmpas y gofeb i’r ail ryfel byd a nawr rydyn am wella’r maes chwarae i blant gyda llwybr hygyrch newydd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, gwelâu blodau, planhigion, llwyni, meinciau picnic a mynedfa archog newydd.

“Mae ein gweledigaeth dros barc Treforys yn fawr, yn gyffrous, ac yn uchelgeisiol, ond mae hefyd yn realistig. Bydd y newidiadau rydym am gyflawni yn gwneud y parc yn lle mwy deniadol a hygyrch i bobl o bob cefndir. Bydd yn dod a mwy o bobl i’r parc sydd ar hyn o bryd ddim yn, neu yn methu, ei ddefnyddio.”

Er mwyn gefnogi Ffrindiau Parc Treforys, ewch i https://community-fund.aviva.co.uk/voting/project/view/17-2878 cyn cannol dydd ar yr 21ain o Dachwedd.


Featured Posts
Recent Posts
Archive
Search By Tags
Follow Us
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square
  • Google+ Basic Square
bottom of page